BL Additional MS. 19,709 – page 32r
Brut y Brenhinoedd
32r
ac anuon a wnaeth ar y brytanyeit y venegi
vdunt pei gvnelhynt euo yn vrenhin gvedy
darffei idaỽ ef yn gyntaf gvasgaru gvyr ru+
fein ac eu ỻad y differei ynteu ynys. prydein. rac estraỽn
genedloed. ac y amdiffynei rac pop gormes o|r a|de+
lei idi a gvedy kaffel ohonav eu du˄undeb; ymlad
a oruc a basianus. a gvedy y lad. kymrẏt a wnaeth
karavn ỻywodraeth y teyrnas yn|y lav. kanys
a|r dugassei sulyen gantav a|r wnathoed idaỽ ef ̷ ̷
brat basianus. ewythyr bravt y vam y vasianus oed ̷ ̷
sulyen. a|phan delyynt y fichteit kanhorthỽyaỽ eu
brenhin nyt ef a|wnaethant vynteu. namyn kym+
ryt gverth y gan garavn a ỻad basianus. a sef a oruc
gỽyr rufein ynuydu a heb vybot pvy uei eu ge ̷+
lynẏon pvy vei eu gvyr e|hunein adaỽ y maes
a|ffo. a gvedy kaffel o garaỽn y vudugolẏaeth hono
y rodes ynteu yn yr alban y|r fichteit y bressỽylaỽ
yndaỽ ac ẏr hynnẏ hyt hediv y maent yno.
A gỽedẏ clybot yn rufein ry|wereskyn o garaỽn
ynys. prydein. a ỻad gỽyr rufein a|e gvasgaru ac eu
dehol. sef a|wnaeth sened rufein anuon aỻectus
a|their ỻeg o|wyr aruaỽc gantaỽ vrth geissav ỻad
y creulavn hvnnv. ac y dvyn ynys. prydein. vrth darystyg+
edigaeth gvyr rufein. a heb vn gohir gvedy dy ̷ ̷+
uot aỻectus y ynys. prydein. ac ymlad a|charaỽn a|e lad
y kymerth allectus ỻywodraeth ynys. prydein. yn|y laỽ
« p 31v | p 32v » |