NLW MS. 3035 (Mostyn 116) – page 40r
Brut y Brenhinoedd
40r
ac erchi mynet a|e that o·dyno hyt y|myỽn dinas
araỻ a|chymryt ar·naỽ y vot yn glaf a gỽneuthur
eneint idaỽ Ac ardymheru y|gorff a|symudaỽ y|diỻat
a|chymrẏt attaỽ deuugein marchaỽc ac eu kywei+
raỽ yn hard syberỽ o veirch a|diỻat ac arueu A
gỽedy darffei hynnẏ anuon o|e vlaen at aganipus vren+
hin ac at y verch y vot yn dyuot. A gỽedy daruot
gỽneuthur kymeint anuon a|wnaeth ỻythẏr ar ẏ
brenhin ac at y verch ynteu y vot yn dyuot ar y|deu+
geinuet marchaỽc gỽedy ry dehol o|e dofyon o|ynys
brydein yn dyuot y geissaỽ porth gantunt y oresgyn
y gyuoeth drachefyn. A|phan gigleu y brenhin hynẏ
kychwyn a|wnaeth ef a|e wreic a|e deulu yn y erbyn
yn anrydedus mal yd oed deilỽg erbyneit gỽr a
vei yn gyhyt ac euo yn vrenhin ar ynys brydein
A hyt tra vu yn freinc y rodes y brenhin lywodraeth
y gyuoeth idaỽ mal y bei haỽs idaỽ kaffel porth a|nerth
y oresgyn y|gyuoeth drachefyn ~ ~ ~
A c yna yd anuonet gỽys dros ỽyneb teyrnas
freinc y gynuỻaỽ hoỻ deỽred ỽrth eu geỻỽg
y·gyt a ỻyr y|oresgyn y|gyuoeth drachefyn idaỽ
A gỽedẏ bot pop peth yn baraỽt kychwyn a oruc ỻyr
a|chordeiỻa y verch a|r ỻu hỽnnỽ gantunt A|cherdet y+
ny doethant y|ynys prydein Ac yn diannot ymlad a|e
dofyon a chael y vudugolyaeth A gỽedy gỽedu pop
peth o|r ynys idaỽ y bu varỽ ỻyr yn|y dryded vlỽy+
dyn. Ac y bu varỽ a·ganipus vrenhin freinc Ac
yna y|kymerth cordeiỻa ỻywodraeth y deyrnas
yn|y ỻaỽ e|hun Ac y|cladỽyt ỻyr y|myỽn dayardẏ
a|wnaeth e|hun a·dan avon soram A|r demyl honno
« p 39v | p 40v » |