NLW MS. Peniarth 11 – page 251r
Ystoriau Saint Greal
251r
ymi gewilyd. Ac myn y gret a|dyly duỽ ymi ny rof|i vy ỻaỽ arnaỽ
ef hediw ym|blaen laỽnslot. ony|byd rac dy lidyaỽ di. kanys nyt oed
enryded ymi dechreu ym|blaen y geniuer milỽr da yssyd yman.
Owein heb y brenhin a|roy di dy laỽ ar y kwarel. Arglwyd heb ef
nyt oes dim nys|gỽnelỽn i yrot ti os gaỻỽn. am hynn eissyoes yr
duỽ na|chymeỻ di vyui o|e|wneuthur. Sagamor heb y brenhin. a
veỻy ditheu. beth a|wneỽch chỽi. Arglỽyd heb ỽynteu pan|darffo y
laỽnslot provi tynnu y kwarel ni a|wnaỽn yr hynn a vynnych. ac
o|e vlaen efo nyt aỽn ni os da gan duỽ. a vnbennes heb·yr arthur
ymbil a|laỽnslot am vynet. a|gỽedy hynny ef a|a y ỻeiỻ o|r byd reit.
Laỽnslot heb y vorwyn yr mỽyn y neb mỽyaf a|gereist eiryoet. ~
na nackaa vi yn yr hynt honn. ac o|r byd reit y ỻeiỻ a|e kanhat+
taant. ac ny chaf|inneu arglỽyd hirdrigyaỽ yma. a vnbennes
heb·y laỽnslot pechaỽt yỽ ytt vyn|tynghetuennv o|dim yn|y byt.
kanys y|mae ryỽ vilwyr yma a|m go·ganeynt i. ac a|m gelw+
ynt yn|vostyỽr ot aỽn i yn eu|blaen. Nac oes myn vyng|cret
heb y brenhin. namyn mỽy y|th ganmolant yn|ỻe dy gỽrte+
yssi. a|heuyt clotuaỽr ac enrydedus yỽ y|ttitheu o|r geỻy y tyn+
nv. ac alussen yỽ kymhorth morwyn heuyt. ac yr|ỽyf|inneu
y|th wediaỽ yr y gret a|dylyy|di ymi ar roi dy laỽ ar y kwarel
ym|blaen y ỻeiỻ. Laỽnslot ny mynnaỽd torri gorchymyn y bren+
hin. ac ygyt a|hynny heuyt ef a|doeth cof idaỽ y dynghetuen+
nu o|r vorwyn ef yr mỽyn y neb mỽyaf a|garyssei eiryoet. a
dilis nat oed dim kymeint a|garei ef a|r vrenhines kyt bei marỽ.
« p 250v | p 251v » |