NLW MS. Peniarth 11 – page 53v
Ystoriau Saint Greal
53v
drỽy gennat y lettyỽr. A marchogaeth a|oruc yn hyt y dyd
hỽnnỽ trỽy y fforest heb gynnal na fford na ỻỽybyr. a
marchogaeth a|oruc ef yny vu bryt naỽn. ac yna ef a|do+
eth y wastat·tir ym|perued y fforest. a|chyferbyn a|hynny ef
a|welei gasteỻ cadarn caedic o vur a|ffossyd. a|cheyr bronn y
casteỻ yr yttoed gỽeirglaỽd dec. ac o bebyỻeu yndi am·can y gant
o amrauael liwyoed. a cheyr bronn y pebyỻeu yd oedynt we+
dy esgynnu ar eu meirch yngkylch chwech chant o varcho+
gyon urdolyon. Ac yd oed y neiỻ|parti ac eu|harueu yn|wyn+
nyon. a|r parti araỻ ac arueu duon ymdanunt heb neb ryỽ
amryuael arueu dieithyr hynny. A chỽbyl o|r rei a|oedynt
a|r arueu duon ymdanunt a|oedynt o·blegyt y kasteỻ. a|r rei
a|r arueu gỽynnyon a|odynt* oblegyt y fforest. Ac yna dechreu
y tỽrneimeint a|orugant o bop|parth yn|wychyr. ac ynteu a
edrychaỽd arnadunt. y edrych pa bleit a|orthrymit. Ac o|r
diwed ef a|welei y gỽyr gỽynnyon yn goruot. ac yn dỽyn
y ỻe y ar y ỻeiỻ. ac yr hynny yr yttoedynt mỽy no|r ỻeiỻ.
A|phan|weles laỽnslot hynny ef a|ymchoelaỽd tu ac att
y rei o|r kasteỻ ar uedyr eu kymorth. a|r kyntaf a gyfaruu
ac ef dan ostỽng y waeỽ ef a|e|kyrchaỽd. ac a|e trewis yny ytto+
ed dan draet y varch y|r ỻaỽr. Ac yna tynnu cledyf yn|vuan a|o+
ruc a|gỽasgaru y tỽrneimyeint y vyny ac y waeret. Ac ar
vyrder ef a|wnaeth o nerth arueu gymeint ac nat oed|neb o|r
a|e gỽelei ny bei yn roi y glot idaỽ efo. yr hynny ual kynt
nyt ytoed ef yn|gỽneuthur kymeint ac y kaffei wyr y casteỻ
y maes. Eissyoes yr hynny ual kynt ef a vriwaỽd ỻawer. ac a|lad+
aỽd ereiỻ.
« p 53r | p 54r » |