Oxford Jesus College MS. 111 (The Red Book of Hergest) – page 243r
Delw'r Byd
243r
976
yn|ỻawer o betheu ereiỻ. a molesteu uy|mryt
periglus yỽ ynteu o achaỽs dynyon kyghor+
vynnus ny orffỽyssant yn aflonydu y petheu
ny aỻont y gyffelybu. a|r petheu ny aỻont
y gadarnhau. nyt ebryuygant y sathru
mal buch dreỽedic. a|r petheu a|gablont ar
gyhoed. a veuyryant dan gel. ac oc an|ỻauur
ni a|gymerant yn weithret udunt e|hun.
ac a|sathrant ar gyhoed mal y|moch y|r mere+
rit. a chanyt vy|ỻauur. namyn my|hun oỻ.
a dylyaf i y anuon ytti. Ac yn|bennaf oỻ pryt
na dyaỻỽyf i vyg|geni y my|hun. mỽy noc y|r
hoỻ vyt gan ysgaelussaỽ y dynyon kyghor+
uynnus. ac a ymdodant e|hunein. ac a|gno+
ant e|hunein o gaỻon gyghoruynnvs. Ac
nyt miui a gnoant ỽy. a minheu a|gyrchaf
y goruchelyon defnydyon. kanys y ỻauur
a orvyd ar|pob|peth. Ac ỽrth hynny ar dysc y
lawer. nyt o amylder ỻyfreu udunt y gỽne+
ir y ỻyfyr hỽnn. ac y rodir yn|enỽ idaỽ. delỽ
y|byt. o achaỽs gỽelet yndaỽ ỻunyeith yr hoỻ
vyt y myỽn drych. yn|yr hỽnn yd edewir arỽys ̷+
tyl an|kedymdeithas ni rac ỻaỽ. Ny|dodaf|i
dim yndaỽ ef. o·nyt a|ganmolont yr athraỽ+
on mỽyhaf. ~ ~ ~ ~ ~ ~
Y byt a|dywedir megys kyffroedic o|bop
parth. kanys yn|dragywydaỽl kyffro y
mae. Y ffuruf yssyd ar lun pel. ac ar|gy+
ffelybrỽyd wy yn|dosparthedic ỽrth y defnydy+
eu. O·dieithyr ygkylch yr wy y mae plisgyn
am y gwyn. Ac ygkylch y melyn y mae y
gỽynn. a|r melyn yssyd ygkylch y defnyd
bychan yssyd yn|y perued. val y mae byt y
ffuruauent ygkylch yr aỽyr glan. Odyna
yr awyr glan ygkylch yr wybyr. Odyna yr
wybyr ygkylch y dayar. ual y byd y melyn
ygkylch y|defnyd bychan. Creedigaeth y
byt o bym mod yd yscriuennir. Vn onadunt
kynn amseroed ac oessoed yd oed hoỻ ffuryf
y|byt y medỽl duỽ. ac y|r medỽl hỽnnỽ y|dywe+
dir. y peth a|wnaetpỽyt* yndaỽ ef buched oed.
Yr eil greedigaeth pan grewyt y byt. ar|gyffely+
977
brỽyd medỽl duỽ. megys y dywedir. y neb a
pressỽyla yn tragywyd a|wnaeth pob peth ygyt.
Tryded greedigaeth; pan grewyt pob|peth
yn|wahanredaỽl herỽyd eu ryỽ yn|y whe
diwarnaỽt. ac o hynny y dywedir. Yn|y
whe diwarnaỽt y gỽnaeth duỽ y|hoỻ weith+
redoed yn da iaỽn. Pedwared creedigaeth
uu. pan|wahanỽys duỽ y creaduryeit pob un
y|ỽrth y gilyd. a|phob un yn|y greedigaeth yn
amgen furyf. ual y geỻit adnabot dyn a dyn.
ac anniueil y|ỽrth anniueil. Ac o|r|greedigaeth
honno y dywedir. Vyn|tat i a|lauurya hyt
yr aỽr honn. a minnheu a|lauuryaf.
Pymhet greedigaeth yỽ. pan at·newydha+
er ettwa y|byt. Ac o|hynny y|dywedir. ỻyma
y gỽnaf i bop peth o newyd. ac yna y gỽna+
ethpỽyt y pedwar defnyd. a|r|defnydyeu hyn+
ny yssyd ympop peth. Nyt amgen. Tan.
awyr. Dỽfyr. Dayar. a|r rei hnny* a|gerda
pob|un yn|y|gilyd yn eu kylch. Y tan yn|yr
awyr. a|r awyr yn|y dỽfyr. A|r|dỽvyr yn|y
dayar. a ymchoelir. ac y|gwrth·ỽyneb y day+
ar yn|y dỽfyr. Y|dỽfyr yn|yr aỽyr. a|r awyr
yn|y tan a|gedymdeithant. A|phob rei o+
nadunt oc eu priodolder a ymrỽymant pob
vn a|e vreich dros y|gilid. ac a|ymgymysgant
yn gyfun bob eilwers. kanys y dayar.
sech ac oer yỽ. ac a|gytweda a|r dỽfyr oer.
Y dỽfyr oer a|gỽlyb yỽ. a|gytweda y|r aỽyr
gỽlyb. Yr awyr gỽlyb a|thỽym yỽ. a gyt+
weda y|r|tan gỽressaỽc a sych a gyuuna
a|r|dayar sech. a chanys trymaf o·nadunt
yỽ y|dayar y mae yn issaf. a|r tan kanys
yscaỽnaf yỽ a achub y|ỻe uchaf. a|r|deu
erereiỻ*. nyt amgen y dỽfyr a|r awyr. yn|y
kymherued y mae. megys rỽym kedernit.
a chanys try·maf o|r deu yỽ y dỽfyr. nessaf
yỽ y|r dayar. a|r awyr kanys ysgaỽnaf yỽ
nessaf yỽ y|r tan. Ac yman y rifir yr ani+
ueileit. a|gerdont y dayar. Kyl* yr hoỻ day+
ar a uessurỽyt o riuedi un uiỻtir ar|huge+
int a mil o vilioed o viỻtiroed deggỽeith.
« p 242v | p 243v » |