LlGC Llsgr. Peniarth 11 – tudalen 263r
Ystoriau Saint Greal
263r
beris udunt aros. A vnbyn heb ef pa le y dygỽch chỽi yr ewi+
got hynny. arglỽyd heb y gỽeissyon y gasteỻ aristor. A oes laỽ+
er o varchogyon yno gyt ac efo heb·y paredur. arglỽyd heb
ỽynteu nyt oes yr aỽr·honn neb. kanys ỽynt a aethant y|waha+
ỽd paỽb ar|hyt y gỽledyd y dyuot y neithyaỽr y mae aristor y
yn|y darparu i ac yn|y harwylaỽ. kanys ef a vynn pri+
odi merch y wreic wedỽ. yr honn a duc ef y dreis o gasteỻ y y*
mam. ac a|e roes att gỽnstabyl prud yssyd idaỽ o|e chadỽ yny
priottei. ac y|mae paỽp yn drist rac y thecket. ac am y bot yn
chwaer y|r marchaỽc goreu o|r hoỻ vyt. kanys ef a|dyrr y phenn
ar benn y vlỽydyn o|r dyd y priotto. Pony wnaei lawer o da
heb·y paredur y neb a|dorrei y gynnedyf honno arnaỽ ef. Gw+
naei yn ỻe gỽir heb y gỽeissyon. ac ef a|vydei vodlaỽn duỽ idaỽ
heuyt. kanys mỽy yỽ y creulonder hỽnnỽ no dim. ac ygyt a
hynny heuyt yd ys yn|y oganu yn vaỽr am lad y brenhin meu+
dwy. ac y|mae yn damunaỽ beunyd kyuaruot ac ef mab y wreic
wedỽ. kanys gỽeỻ oed ganthaỽ pei darffei idaỽ ỻad hỽnnỽ no
neb. Pa|le y mae aỽch arglỽyd chỽi yr aỽr·honn heb·y paredur.
Arglỽyd heb ỽynt yr aỽr·honn y gadaỽssam ni efo yn|y fforest
honn yma yn ymlad a marchaỽc urdaỽl grymus. ac ef a|dywa+
ỽt mae y marchaỽc urdaỽl dewr y gelwit ef. ac am dywedut
o·honaỽ mae marchaỽc y baredur oed. y|mae aristor yn|keissyaỽ
y lad. ac efo a|erchis ym gerdet o|r blaen ac a|dywaỽt y goruydei
arnaỽ yn|y ỻe. ac yr aỽr yd aetham ni y ỽrthunt. ni a glywem eu
« p 262v | p 263v » |