Llsgr. Caerdydd 1.362 (Hafod 1) – tudalen 95v
Brut y Brenhinoedd
95v
yscotteit ar ffichteit ar gỽydyl duunaỽ ac ef yn
erbyn arthur y ewythyr. Sef oed erif y llu rỽg
kristynogyon a phaganyeit petwar vgein mil.
Ac o hynny o niuer ganthaỽ y doeth yn erbyn
arthur hyt yg glan y mor y porth hamo. A
rodi bryỽdyr* idaỽ yn dyuot o|e llogheu yr tir.
A* yna y dagỽydassant. Araỽn vab kynuarch
vrenhin yr yscotteit. A gỽalchmei vab gỽyar
nei arthur. Ac ar nyt oed haỽd eu rifaỽ y gyt
ac ỽynt. Ac yn lle araỽn vab kynuarch y dodet
ywein vab vren yn vrenhin. gỽyr a uu glotuaỽr
gỽedy hynny yn llawer o volyanneu. Ac eissoes
kyt bei trỽ* diruaỽr lafur; arthur a|e lu a gauas
y tir. A gỽedy llad llawer o·nadunt. kymell
medraỽt a lu ar ffo. A chyt bei mỽy o lawer ni+
uer medraỽt. Eissoes trỽy dysc gỽastat a feny+
dyaỽl aruer ar ymladeu doethach oed niuer ar+
thur no|r lleill. Ac ỽrth hynny y bu reit vedraỽt
kymryt eu ffo ef a lu. Ac yn|y lle eissoes ymgyn+
nullaỽ a|wnaethant ar vedrot y ffoedigyon
o pop man. A chyrchu hyt nos y gaer wynt
A chydyrnhau y dinas yn eu kylch. A phan
doeth y chỽedleu hynny ar wenhỽyuar vren+
hines. Sef a|wneth hitheu anobeithaỽ yn vaỽr
A mynet a ger efraỽc hyt yg kaer llion ar
ỽysc. Ac|ymroi yn vynaches ym mynachloc
Julius verthyr a oed yno. Ac yno yno* y bu
AC ym pen y tryded dyd [ hyt agheu.
gỽedy cladu y lladedigyon kychỽyn a|wna+
« p 95r | p 96r » |