LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 73r
Brut y Brenhinoedd
73r
a chywreinrwit; nogid nerth a chryfder. Ac yn yr am+
ser hwnnw yd oed Pasgen vab gortheyrn gwedy yr
ffo hyt yn germania. ac yna kynullaw llu a oruc a|ga+
uas vwyaf. y dyuot am ben emreis hyt yn ynys bryde+
yn. ac adav pob da vdunt yr hynny. A chredu pasgen
a oruc gwyr germania. a dyuot gyt ac ef aneirif o
lynghesseu hyt yn ynys brydeyn. a dechreu anreithiaw.
A phan gigleu emreis hynny; kynullaw llu a oruc a
dyuot yn erbyn pasgen a|y lu. ac ev gyrru ar ffo yn
gywilydus hyt yn iwerdon. Ac yna yd oed gillamw+
ri yn vrenhyn yn iwerdon. a llawen uu hwnnw vrth
pasgen. a chwinaw a oruc pob vn onadunt vrth y gilid
rac meibion custennin. Ac yna kytduhunaw a oru+
gant yll|deu y·gyt a dyuot a llynghesseu ganthunt y
vyniw y dir. a dechreu anreithiaw. A phan gigleu vth+
yr hynny argysswr mawr oed arnaw; canys oed glaf
emreis y vraud yng|kaer wint. Ac nat oed ganthaw
ynteu o niver val y gallei ymerbynieit a phasgen ac
a gillamwri heuyt. A phan gigleu y deu·wr hynny
bot emreis yn glaf llawen uu ganthunt. o dybygu
gallu goruot ar vthyr e|hvn. A thra ottoydit yn hyn+
ny. Sef a oruc vn o|r saesson; eppa oed y henw. dyuot
ar pasgen a gouyn idaw pa veint a rodei ef o da yr
neb a wnelei angheu emreis. Mi a|rodwn heb ef mil
o bvnnoed. am kedymeithas inheu tra vythwn vyw.
Ac o|bythwn vrenhin; mi a|y hanrededwn o dir a da+
yar val y bythei vodlawn. Ac yna y|dywat eppa; mi
a won* ieith y bryttannyeit ac ev moes. ac a wnn me+
deginiaeth. ac am|hyny doro ym gedernit ar er hynn
« p 72v | p 73v » |