LlGC Llsgr. Peniarth 5 (Llyfr Gwyn Rhydderch, rhan 1) – tudalen 25v
Buchedd Fargred
25v
a chroguch ynn yr awyr ac ennynnwch y hystlyssev a ffaglev gwressauc. A| r keisseit hep
ohir a wnnaeth y arch ef. A thra yttoedynt hwy yn llosgi y chorff hi santeid yd oed hitheu
yn gwediav ac yn dyvedut Vy argluyd i llosc vy arenev a| m callon hyt na bo ynof enwired.
Y braudur a dyvat yna Kyttssynnya a mi a chyt duvnha ac abertha y| r duwyveu. Hitheu a
attebaud Ny chyttsynnyavi a thi ac nyt adolaf dy duyveu mud a bydeir. Ac yna yna* yd erchis
y pennyadur dvynn llestreit o dvfyr brvt a rvymav y phenn a| e thraet a| e dienydyav a| e
phoeni yn hvnnv. A| r keisseit poenwyr a wnaethant mal yd erchis. Gwynvydedic hagen
Vargret gann dyrchauel y llygeit tu a| r nef a dyvat Vy Argluyd gogonedus tragyvyda+
vl torr y rvymev hynn a minhev a aberthaf iti aberth o volyant. Gwnna ti ymi y dv+
vyr hvnn megys ffynnawn ffynnhonvs hynavs. Bit leindit ymi ac amlwc waret. Bit ffons
ditrei didiffic. Doet colomen kyulavn o| r Yspryt Glann y vendigav y dvfyr hvnn y| th
enw di ac y| m golchi ac ef val y caffuyf vuchet tragywydaul yr aur honn y| m heneit i.
Ac eglurhaet vy synnvyr a gvrthladet y| vrthyf vy holl bechodeu. A bedydya vi ynn enw
y tat a| r mab a| r Yspryt Glann yssyd vendigeit ynn oes oessoed.XII. Ac ynn yr awr honno y doeth
kynnhvryf maur yn| y daear. ac y doeth colomen o nef a choron eur yn y genev ac eisted
a wnnaeth ar yscuyd Marget wynvydedic. Ac ar hynt y rydhavyt y dvylaw hi ac yd
ellygwyt y rwymev ac yd aeth ar y thraet o| r dvfyr dan voli a bendigav Duv val hynn
Duv Argluyd a wledychaud a gvympter a theguch a gviscaoed ef a wiscaud cadarnuch
a dewrder ac a wiscaud ar y vchaf grym a nerth Ac yna y clywyspuyt llef o nef yn dywe+
dut wrthi Dyret y orffuys Vargret ac y lewenyd Iessu Grist dy Argluyd di. Dyret y te+
yrnas gwlat nef. Ac elchvyl y llef a dyvat Gwyn dy vyt Vargret canys coron y gwyr+
yoned a gymereist a| th vorwyndavt a getueist. Ac ynn yr awr honno y credassant pym
mil o wyr heb wraged a morynyonn. Ac yna yd erchis Olibers enwir llad penne pawb
a| r a gredassei yn Duw. Ac enkyt avr wedy hynny yd erchis ef llad penn Margret a ch+
ledyf. A heb ohir yd ymyvaelavd y keisseit yndi ac y ducassant odieithyr y dinas ac
guedy y dyuot hi y| r lle y lledit y phenn y dyvat Malchus vrthi Ystynn dy vynwgyl a derbyn dy+
rnawt y cledyf. A Margret Santes a dyvat Arho ychydic ynny gwediaf ac oni or+
chymynaf vy eneit y| r egylyonn a r seint. Malchus a dyvat vrthi Adolvc kymeint ac a
vynnych o amsser a thi a| e keffy.XIII. Ac yna y dechreuis hi wediav a dyvedut val hynn
Duw heb hi canys ti a uessureist a| th lav y nef a| r dayar gwarandav vy gwedi. A chann+
yhatta y bob dyn o| r a yscrivenno vy muched i a| m gweithredoed neu y| r neb a| e darlleo
neu a| e guarandawo yn llawen yscrivennv y env ef yn llyuyr y wir vywyt. A phwy
vn bynnac yd archo ef yti vadeueint o| e bechodeu na omed ef a phvy bynnac a adeilho eg+
lwys y| m heno i neu a ossotto o| e lauur e| hun goleuat ynn yr eglwys erof|i na dwc ar gof yr d+
ial arnav y gamweithredoed a| e argywed. A phwy bynnac a ordiwedher ar y gam yn
bravt aruthyrk o geilv ef arnaf|i ac adolwynn ohonnav vym porth i rydha ef o| e boen
a phvy bynnac y bo ganntho yn y ty vy gweithredoed a| m buched yn yscriuennedic
na at y| r Yspryt budyr caffel methyl arnav ac n| at eni idav ef etiued cloff na dall.
Ac ot eirch madeueint o| e bechodeu trugarha. A thra yttoed hi yn dyvedut
hynn a llaver ygyt a hynn ar y guedi y doeth tyrveu maur aruthyr a chyt a| r tyrveu
y doeth colomen a delw y croc ygyt a hi. A rac ovyn y tyrveu a| r aruydonn ereill a welas
paub o| r a oed yn y chylch hi y dygvydassant hvy ynn llwrw eu hwynep y| r llaur. Gwyn+
vydedic hagen Vargret pann y gwelas hi wyrtheu Duv a| e nerth y dygywydaud rac
y vronn ef. Ac yna yd ymneidaud y golomen erni ac y dyvat vrthi Gwynvydedic
wyt ti Vargret ym| plith yr holl wraged a phop peth o| r a adolygeist ar dy wedi
Duv a| e kanhadaud it. A dyret Vargret y| th le darparedic a mi a agoraf pyrth
teyrnas. nef it. Ac yna y kymerth hi cannyat y|gann baup o| r a oed ynn y lle ac y gorch+
ymynnavd wynt y Duv. A| e hyspryt hitheu a orchymynavd y egylyonn a seint o nef. A
gwedy daruot idi wediav ymdyrchauel a wnnaeth hi y vynyd a dyvedut vrth y gwr a
dothoed y lad y phenn Kymer di dy gledyf a tharav vi. Ac ef yn gwrthneu y tharav
hi achaus eglurder a welsei ac a glywessei y dyvat Margret santes vrthav ef.
« p 25r | p 26r » |