Rhydychen, Llsgr. Coleg yr Iesu 111 (Llyfr Coch Hergest) – tudalen 161v
Owain, Peredur
161v
655
hi a|e kaffei. A|r honn a vnnei*|vynet ymeith
elei. Ac owein a trigywys yn ỻys arthur
o hynny aỻann yn pennteulu. Ac yn
annỽyl idaỽ yny aeth ar|y gyfoeth e|hun.
Sef oed hynny trychant ˄cledyf kenuerchyn a|r
vranhes. Ac y|r ỻe yd|elei owein a|hynny
gantaỽ. goruot a|ỽnaei. A|r chwedyl hỽn
a|elwir chwedyl. iarỻes y|ffynnaỽn. ~ ~ ~
E *ffraỽc iarỻ bioed iarỻaeth y
gogled. A seith meib a|oed idaỽ.
Ac nyt o gyuoetheu yn vỽyaf
yd ymborthei efraỽc. namyn o tỽrnei+
meint a ryueloed. ac ymladeu. ac ual y
mae mynych y|r neb a ymkanlyno ac
ymladeu a ryueleod*. ef a|las a|e chỽe
meib. Seithuet mab a|oed idaỽ peredur
oed y|enỽ. a ieuhaf oed hỽnnỽ. Ac nyt
oed oet idaỽ vynet y ymlad nac y
ryuel. Pei oet idaỽ. ef a|ladyssit mal
y ỻadỽyt y tat. a|e vrodyr. Gỽreic ystry+
wyat kymet* oed yn|vam idaỽ. a phry+
deru a|oruc yn uaỽr. am y hun mab a|e
chyfoeth. Sef a gafas yn|y chyghor
ffo ˄y ynyalỽch a diffeithỽch didramỽy+
eit. ac ymadaỽ a|r kyfannedeu. Ny
adaỽd neb yn|y chedymdeithas namyn
gỽraged a meibon. a dynyon didraha.
ny eỻynt nac ny|wedei udunt nac ym+
lad. na ryfelu. Ny lyuassei neb yn|y ỻe
y clywei y mab. kynnuỻaỽ na meirch
nac arueu. rac dodi y vryt o|r mab ar+
nunt. ac y|r fforest yd|aei y mab beunyd
y chỽare ac y taflu ỻysgyon. ac ysky+
ryon. a|diwarnaỽt ef a|welei. gatwan
geifyr y uam. A dỽy ewic yn gyfagos
y|r geifyr yn|sefyỻ. ac eressu yn uaỽr
a|oruc y mab bot y|dỽy hynny heb
gyrn. a|chyrn ar y rei ereiỻ. a|thyby+
aỽ eu bot yn hir ar|goỻ. ac am hynny
koỻi eu|kyrn o·nadunt. Ac y|ty a|oed
ym benn* y fforest y|r geifyr. o vilỽry+
aeth a phedestric. ef a|gymheỻỽys
yr|ewiged ygyt a|r geifyr y myỽn. Ef
a|deuth peredur drachefyn att y uam.
Y mam heb ef peth ryued ry weleis
656
yghot. Dỽy o|th eifyr di gỽedy
ry|uynet gỽyỻtineb yndunt. a ry
goỻi eu kyrn. rac meint hyt y bu+
ant ar|goỻ dan y koet. Ac ny cha+
fas dyn gystec uỽy noc a geueis
yn eu gyrru y myỽn. ac ar hynny
kyfodi a|oruc paỽb a dyfot y edrych.
A|phan welsant yr ewiged ryfedu
yn uaỽr a|orugant. a|diwarnaỽt
ỽynt a|welynt tri marchaỽc yn|dy+
uot ar hyt marchaỽcfford gan
ystlys y fforest. Sef tri marchaỽc
oedynt. Gwalchmei uab gỽyar.
a geneir gỽystyl. ac owein uab
uryen. Ac owein yn kadỽ yr ol yn
ymlit y marchaỽc. a rannassai yr
yr aualeu yn ỻys arthur. Vy mam
heb·y|peredur beth yỽ y|rei racko
Egylyon ynt vy mab heb hitheu.
ỻyma vy ffyd heb·y peredur yd af yn
egyl gyt ac ỽynt. Ac y|r fford yn eu
herbyn y|deuth peredur. Dyw+
et eneit heb·yr owein a weleist
di varchaỽc yn mynet heibaỽ.
na|hediw na doe. Na|ỽn heb ynteu
beth yỽ marchaỽc. y ryỽ beth ỽyf|i
heb·yr owein. Bei dywetut ti ymi
y peth a|ovynnaf ytti. Minneu
a|dywedỽn y titheu yr hỽnn a|o+
vynny ditheu. Dywedaf yn ỻa+
wen heb·yr owein. Beth yỽ
hỽnn heb·y peredur ỽrth y kyf+
rỽy. kyfrỽy yỽ heb·yr owein.
Amovyn a|oruc yn ỻỽyr beth oed
y kyweirdebeu a|welei ef ar y
gỽyr a|r meirch. a|r arueu. A
pha|beth a vynnynt ac ỽynt. ac
a|eỻynt o·honunt. Oowein a
uenegis idaỽ yn ỻỽyr pop peth
o|r a|eỻir ac ỽynt. Dos ragot
heb·y peredur. mi a|weleis y kyfry+
ỽ a|ovynny titheu. a minneu a|af
y|th ol ti. Yna ymchoelut a|oruc
peredur att y uam. a|r nifer. Y mam
heb ef nyt egylyon oed y rei gyn+
neu. namyn marchogyon urdo+
The text Peredur starts on Column 655 line 10.
« p 161r | p 162r » |