Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlB Llsgr. Cotton Cleopatra B V rhan i – tudalen 1r

Brut y Brenhinoedd

1r

*y llyuyr hwnn a elwir y brut nyt amgen
noc ystoriaeu brenhined ynys brydeyn
ac ev henweu or kyntaf hyt y diwethaf.
Pan yttoedwn yn vynych yn treiglaw
medylieu llawer. ac am lawer o|betheu
vy medwl a|digwidws yn ystoriaeu
brenhined ynys brydein. ac y bu an·ryuet gen+
nyf am draetheant gildas. a beda. mor dywyll.
ac na choffaassant o|r brenhinet a vuant yn
ynys brydein kyn dyuot crist yn gnawt. nac
o arthur nac o lawer o vrenhinet ereill a vuant
gwedy knawtdoliaeth crist. Ry gawsswn inheu
ac yr glywsswn bot ev gweithredoed yn dei+
lwng o uoliant ac yn|goffadwy trwy lythyr
y gan lawer o|bobloed. ac yn didanwch ganth+
unt traethu onadunt ac ev dydwyn ar gof.
Ac ual yr yttoedwn yn yssmalhau am hyn+
ny. y rodes ym gwallter archdiagon ryt ychen
llyuyr kymraec ac yndaw gweithredoed bren+
hinet ynys brydein. o vruttus y brenhin kyn+
taf o|r bryttannieit hyt ar gadwallawn vab
katuan. a gweithret pob vn gwdy* y gilit
ol yn ol. o ymadrodyon trwiadyl llwybreit
yndaw hard urth eu datkanu. Ac o arch
ac annoc yr athro hwnnw kyt gorfei arnaf
kynullaw geirieu ystronawl o ardeu ereill.
eissioes o|m coydiawl ethrylit am priaut
binnieu vy hvn y prydereis trossi ac ymchwe+

 

The text Brut y Brenhinoedd starts on line 1.