Breudwd Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425
English

LlGC Llsgr. Peniarth 5 (Llyfr Gwyn Rhydderch, rhan 1) – tudalen 8r

Y Groglith, Elen a'r Grog

8r

diwethaf gwaeth no|r kyntaf. Ac yna y dywat pilatus. yma genwch chwitheu geitweit.
ewch a chetwych mal y gwdawch. ac wynteu a|aethant yn gadarn ygkylch y bed. a cheit+
weit y gadw y maen.XIV. Ac odyna gwawr dyd dyw|ssul y doethant meir vagdalen. a meir arall
y edrych y bed. ac odyna nachaf diruawr kynhwryf yn|y daear. kanys agel yr arglwydd
as* disgynawd o|r nef. ac a dynessawd y troy ac ymchwelut y maen. ac y eisted arnaw. Kyffe+
lyb oed y welet y lucheden. a|e dillat val yr eiry. ac yna rac y ovyn ef y dechrynnwys y
keitweit. ac y dygwydyssant mal meirw. Ac y dywawt yr agel wrth y gwraged. na
vyt ovyn arnawch. my a wn panyw iessur yr hwn a groget a geisswch. nyt ydiw yma. ef
a gyuodes megys y dywot. dowch edrychwch y lle y dodet yndaw. Ewch yn gyfulym a dyw+
edwch y disgyblon ac y beder y ry|gyvody. ac ef a|ch raculaena chwi ngalilea. yno y gwe+
lwch euo megys y dywot y chwi.*FEL Y CAFODD ELEN Y GROG XV. Ac yna y cudywys yr ydeon yn lle dirgel yn|y daear y groc
y diodeuawd crist arney. Ac odyna ympen y trydyd vlwydyn ar dec ar hugeint a chant
gwedy diodef o|n arglwyd ny iessu grist. yn|y gwledychey gwr mawr anrydedus. constans y
enw. dywyllwr y duw. yn|y seithuet vlwydyn o|e terynnas. yd ymgynnullasant kenedloed
agyuyeith y ymlad yn erbyn rufein ar auon danubium. pan uenegid
hynny y constantinus. y kynnullwys ynteu lluy* mawr. ac y kerdwys yn eu herbyn. Wynteu
ry|doethynt y teruyneu gwyr rufein yn agos y danubium. Pan welas hagen eu ham+
ylder. tristau a|oruc val rac y agheu. a|r nos honno y doeth attaw gwr gwympaf. a|e gyuody
a dywedut wrthaw. Custenyn na vit ovyn arnat. Edrych ar|y nef uch dy benn. Ac edrych
a|oruc ynteu. ac yno y gweley arwyd croc grist gwedy ry|ossot yn eglur o diruawr leuuer.
ac uch y benn yn ysgriuenedic y tityl hwnn. Yn yr arwyd hwn y goruydy di.XVI. A phan welas Cu+
stenyn yr arwyd hwnn. y gwnaeth ynteu y kyffelybrwyd y|r arwyd hwnnw. val yr hwn ry
welsey yn|y nef. A chyuody a wnaeth. a chyrchu val hynny. a dody o|e vlaen arwyd y groc. a|r
dyd hwnnw llad llawer onadunt. A|r dyd hwnnw y rodes duw vudygolyaeth y custenyn
vrenin. drwy nerth y groc. Odyna y doeth custennyn y dinas. ac y gelwys attaw holl offei+
reit. a geuduyeu. ac abertheu a|oed yna. a gouyn y bawp onadunt py oed yr arwyd hwnn.
neu pa beth oed. ac nyt oed attepey idaw o dim. Yna eissoes y dywat rei panyw arwyd duw o|r nef.
Pan doed y chwedyl ar vychydic o gristonogyon a oed yn|yr amsser hwnnw. y doethant wynteu
ar y brenin. ac y mynegassant idaw rinwedeu y trindawt a diodeuedigaeth mab duw yg|
knawt. ac val y ganet. ac y diodefuawd. ac y kyuodes y trydydyd gwedy diodef ar y groc.
Ac yna yd|anuones custennyn vrenin ar eusebius. y gwr a|oed bap yna yn rufein y alw att+
aw. a hwnnw a deuth attaw. ac a bedydywys ef yn enw yn harglwyd ni iessu grist. Ac yna
y kadarnawd ef yn ffyd grist. ac yd erchis adeilat eglwysseu. a distryw temleu y geuduyeu.
a fferffeith oed custennyn yn y ffyd. gan lauuryaw y|r yspryt glan herwyd euegylyeu
crist. Ac gwedy kyuarwydaw o|r euegylyeu pa le y crogassit crist y arglwyd ef. yd anuones
ynteu y vam ef. elen oed honno. y geissaw y kyssegredic prenn y groc yr arglwyd. ac y
adeilat eglwys yno. Rat yr yspryt a|oed ar y wynvydediccaf elen vam yr amherawdyr.
val y managey yr yspryt idi. y llauurya hitheu o bop peth. a diruawr garyat a rodes
hi ar yn harglwyd ni iessu grist. Ac odyna y kychwynnawd y geissaw y iachuyawl brenn
y groc kyssegredic.XVII. A gwedy dyallu yn ystyryawl ohonei
a|e chyuotedigaeth o veirw. ny han+
bwyllawd hi. ac ni orffwyssawd hi yny gauas arwyd budugolyaeth crist. yn y lle y go+
ssodyssit y arglwydiawl gorff ef arnaw. Ac yn y mod hwnn y cauas hi. yn yr wythuetyd
ar hugeint o|r eil|mis y doeth elen a lluy mawr genthy y dinas caerussalem. ac yno y kyn+
nullassant kynulleitua vawr o|r ydeon. ac nyt o|r dinas e|hun. namyn o|r dinas a|e
gylch o gylch. ac o dinassoed ereill o|r y bey eu presswyluot. A diffeith oed caerussalem yna. yn gymeint

 

The text Elen a'r Grog starts on line 11.